Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai
18.00 dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013
Ystafelloedd Pwyllgora C a D, Tŷ Hywel
Yn bresennol
Sandy Mewies AC Cadeirydd
Jocelyn Davies AC Llefarydd Plaid Cymru ar Dai
Carl Sargeant AC Y Gweinidog Tai ac Adfywio
Keith Edwards CIH Cymru (Ysgrifennydd)
Lee Cecil Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid
Douglas Haig Cymdeithas Landlordiaid Preswyl
Julie Nicholas CIH Cymru
John Puzey Shelter Cymru
Aaron Hill Cartrefi Cymunedol Cymru
Ceri Cryer Age Cymru
Auriol Miller Cymorth Cymru
Jim Bird-Waddington Caer Las
Ymddiheuriadau
Peter Black AC, Mark Isherwood AC, John Dysdale TPAS Cymru, Steve Clarke Tenantiaid Cymru a Neil Williams Gofal a Thrwsio Cymru.
Croeso
Esboniodd yr Ysgrifennydd fod y Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau tan 19.00, er bod posibilrwydd y byddai'r Cadeirydd a'r Gweinidog yn ymuno â ni cyn hynny. Yn absenoldeb Aelodau'r Cynulliad, trafododd y grŵp y blaenoriaethau cyfredol a gweithgareddau'r dyfodol.
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog
Ymunodd y Cadeirydd â'r Gweinidog a Jocelyn Davies AC am 18.25. Byddai'n rhaid i Aelodau'r Cynulliad ddychwelyd i'r Cyfarfod Llawn cyn hir ac felly cytunwyd i gwtogi'r cyfarfod a chanolbwyntio ar ddiweddariad gan y Gweinidog a chwestiynau.
Dywedodd y Gweinidog na allai rannu manylion y Bil Tai arfaethedig gydag aelodau'r Pwyllgor oherwydd byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi ar 18 Tachwedd. Fodd bynnag, dywedodd fod y prif feysydd a oedd yn debygol o gael eu cynnwys yn wybodaeth gyffredin, ac roeddynt yn cynnwys:
· Gwella'r Sector Rhentu Preifat
· Gweithredu i atal digartrefedd
· Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
· Cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru
· Diddymu system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai
· Tai Cydweithredol
Mynegodd Jocelyn Davies AC bryderon ynghylch awgrymiadau y byddai statws cyn-garcharorion yn cael ei newid o ran y blaenoriaethau digartrefedd. Cafwyd trafodaeth gyffredinol hefyd am yr amserlen a'r broses.
Cyfarfodydd y dyfodol
Ymgynghorir â'r aelodau ynghylch themâu yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddai'r Cadeirydd a'r Ysgrifennydd yn cyfarfod i adolygu a chynllunio'r sesiwn gyntaf yn 2014.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.45.
Penderfynwyd gohirio'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y bwriadwyd ei gynnal ar ôl y cyfarfod, tan ddyddiad i'w drefnu.